Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mawrth 2019

Amser: 13.01 - 15.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5262


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Dai Lloyd AC

Suzy Davies AC

David Melding AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Ruth Hatton (Dirprwy Glerc)

Manon George (Ymchwilydd)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AC a Mandy Jones AC. Cafwyd ymddiheuriad gan Suzy Davies AC ar gyfer eitemau 3 a 4, a nodwyd y byddai David Melding AC yn dirprwyo ar ei rhan.

</AI1>

<AI2>

2       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI2>

<AI3>

3       Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): brîff technegol gan swyddogion

Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. 

</AI3>

<AI4>

4       Y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Cynigion ar gyfer gwaith allgymorth

Trafododd y Pwyllgor bapur gan y Gwasanaeth Allgymorth, a chytunodd ar y modd y byddai’n ymgysylltu’n ehangach fel rhan o’r gwaith o graffu ar y Bil.

</AI4>

<AI5>

5       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI5>

<AI6>

5.1   SL(5)319 - Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy’n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019

</AI6>

<AI7>

5.2   SL(5)321 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019

</AI7>

<AI8>

5.3   SL(5)323 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

</AI8>

<AI9>

5.4   SL(5)331 - Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

</AI9>

<AI10>

6       Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol ar gyfer sifftio ac sydd bellach yn destun craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

</AI10>

<AI11>

6.1   SL(5)325 - Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

</AI11>

<AI12>

6.2   SL(5)328 – Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau a nodwyd.

 

</AI12>

<AI13>

6.3   SL(5)329 – Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

</AI13>

<AI14>

6.4   SL(5)330 - Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI14>

<AI15>

7       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI15>

<AI16>

7.1   CLA320 – Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd o ran rhinweddau.

</AI16>

<AI17>

7.2   SL(5)322 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd o ran rhinweddau.

</AI17>

<AI18>

7.3   SL(5)326 – Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd technegol a nodwyd.

</AI18>

<AI19>

7.4   SL(5)327 – Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a'r adroddiadau i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau a nodwyd.

</AI19>

<AI20>

8       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI20>

<AI21>

8.1   SL(5)324 - Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Ystyriodd y Pwyllgor y Cod a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â Rheol Sefydlog 21.7

</AI21>

<AI22>

9       Offerynnau Statudol y mae angen rhoi cydsyniad iddynt: Ymadael â’r UE

</AI22>

<AI23>

9.1   SICM(5)20 - Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Iechyd Trawsffiniol a Diwygiadau Amrywiol etc) (Ymadael â'r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a nododd, fel y dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei lythyr, nad oedd y Gweinidog o blaid cyflwyno cynnig i gynnal dadl.

</AI23>

<AI24>

9.2   SICM(5)21 - Rheoliadau Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Buddion mewn Nwyddau neu Wasanaethau etc.) (Diwygio etc.) (Ymadael â'r DU) 2019

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a nododd, fel y dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei lythyr, nad oedd y Gweinidog o blaid cyflwyno cynnig i gynnal dadl.

</AI24>

<AI25>

10    Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI25>

<AI26>

10.1 WS-30C(5)101 - Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

</AI26>

<AI27>

10.2 WS-30C(5)104 - Rheoliadau Mesurau’r Farchnad (Safonau Marchnata) (Diwygio Deddfwriaeth Uniongyrchol yr UE) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

</AI27>

<AI28>

10.3 WS-30C(5)105 - Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cyllido, Rheoli a Monitro) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

</AI28>

<AI29>

10.4 WS-30C(5)106 - Rheoliadau Cynlluniau Taliadau Mesurau'r Farchnad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI29>

<AI30>

10.5 WS-30C(5)107 - Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Dyframaethu (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

</AI30>

<AI31>

10.6 WS-30C(5)108 - Rheoliadau Glanedyddion (Diogelu) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

</AI31>

<AI32>

10.7 WS-30C(5)109 - Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) (Diwygio) (Ymadael i'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI32>

<AI33>

10.8 WS-30C(5)110 – Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach.

 

</AI33>

<AI34>

10.9 WS-30C(5)111 - Rheoliadau Bwyd, Diod, Meddyginiaethau a Gweddillion Milfeddygol (Diwygio Etc) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Robin Walker, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI34>

<AI35>

10.10 WS-30C(5)112 - Rheoliadau Mesurau Marchnad (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael i'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

</AI35>

<AI36>

10.11 WS-30C(5)113- Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

</AI36>

<AI37>

10.12 WS-30C(5)114 - Rheoliadau Cynhyrchu a Rheoli Organig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

</AI37>

<AI38>

10.13 WS-30C(5)115 - Rheoliadau Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI38>

<AI39>

10.14 WS-30C(5)116 - Rheoliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin (Darpariaethau Cyllido, Rheoli a Monitro Darpariaethau Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI39>

<AI40>

10.15 WS-30C(5)117 - Rheoliadau Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

</AI40>

<AI41>

10.16 WS-30C(5)119 - Rheoliadau'r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI41>

<AI42>

10.17 WS-30C(5)120 – Rheoliadau Bwyd a Ffermio (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI42>

<AI43>

10.18 WS-30C-121 - Rheoliadau Sefydlu Cyd-drefniadaeth ar

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI43>

<AI44>

10.19 WS-30C(5)-122 - Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai materion.

 

</AI44>

<AI45>

11    Papurau i’w nodi

</AI45>

<AI46>

11.1 Llythyr gan y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Trefgarne, Cadeirydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â WS-30C (5) 81 - Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Arglwydd Trefgarne.

</AI46>

<AI47>

11.2 Gohebiaeth yn ymwneud â pNeg(5)08 – Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

</AI47>

<AI48>

11.3 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ymwneud â SICM(5)18 - Rheoliadau Gwrteithiau a Deunydd Amoniwm Nitrad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog.

</AI48>

<AI49>

12    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI49>

<AI50>

13    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Masnach

Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i ystyried a chytuno ar y newidiadau terfynol y tu allan i'r Pwyllgor, er mwyn medru gosod yr adroddiad erbyn 11 Mawrth.

</AI50>

<AI51>

14    Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Y wybodaeth ddiweddaraf

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf.

</AI51>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>